Adran Ymgynghori Cynllunio a Chynhyrchiad yw CAM...
Rydym yn hwyluso mynediad i arbenigedd, y dechnoleg ddiweddaraf a chymorth ariannol amrywiol lle'n bosib. Yn gyffredinol, mae CAM yn anelu i fod y cyswllt rhwng arbenigedd a diwydiant. Sefydlwyd yn 2005 fel rhan o Adran Beirianneg Coleg Menai, ac rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn offer a meddalwedd.
Mae gennym ni 3 aelod o staff sy'n gweithio gyda diwydiant ar brosiectau cynllunio cynnyrch hefo pwyslais ar gynllunio i'w gynhyrchu, prototeipiau a pheirianneg. Fel rheol mae ein cwsmeriaid yn aml yn SME neu'n entrepreneuriaid, gyda rhai ohonynt wedi dechrau busnes eu hunain tra'n gweithio gyda ni.